Book-bot.com - read famous books online for free

Y Gododin - A Poem of the Battle of Cattraeth by Aneurin
page 28 of 221 (12%)
Heessit eis ygkynnor eis yg cat uereu
Goruc wyr lludw
A gwraged gwydw
Kynnoe angheu
Greit vab hoewgir
Ac ysberi
Y beri creu

XXIV.

Arwr y dwy ysgwyt adan
E dalvrith ac eil tith orwydan
Bu trydar en aerure bu tan
Bu ehut e waewawr bu huan
Bu bwyt brein bu bud e vran
A chyn edewit en rydon
Gran wlith eryr tith tiryon
Ac o du gwasgar gwanec tu bronn
Beird byt barnant wyr o gallon
Diebyrth e gerth e gynghyr
Diua oed e gynrein gan wyr
A chynn e olo a dan eleirch
Vre ytoed wryt ene arch
Gorgolches e greu y seirch
Budvan vab bleidvan dihavarch

XXV.

Cam e adaw heb gof camb ehelaeth
Nyt adawei adwy yr adwriaeth
DigitalOcean Referral Badge